MAE innogy yn bwriadu datblygu prosiect ynni adnewyddadwy yng Nghoedwig Alwen, tua 4km i’r gogledd o Gerrigydrudion.

Nod y prosiect yw cyflenwi hyd at 33MW o ynni glân a gallai gynnwys hyd at naw tyrbin gwynt.

Mae innogy ar ddechrau'r broses ddatblygu hon, ac mae am ymgynghori â’r gymuned leol ynglyn â chynllun, dyluniad a llwybr grid posibl y safle.

Bydd cynrychiolwyr o Ynni Cymunedol Cymru wrth law hefyd i siarad am gynnig cyfranddaliadau’r prosiect a fyddai’n caniatáu i bobl leol fuddsoddi mewn ynni gwyrdd.

Bydd y digwyddiad cyntaf yn cael ei gynnal ddydd Gwener yma, Ionawr 24 yn Nhy’r Eglwys, Nantglyn (3.30-6.30pm).

Bydd yr ail ddigwyddiad ddydd Sadwrn, Ionawr 25 yng Nghanolfan Gymunedol Cerrigydrudion, 10am-1pm.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi nodi bod y safle hwn yn addas ar gyfer datblygiadau ynni adnewyddadwy o dan broses Ardal Chwilio Strategol TAN 8 Polisi Cynllunio Cymru, ac enillodd innogy y broses dendro gystadleuol a gynhaliwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu’r prosiect.

Dywedodd Martin Cole, datblygwr ynni adnewyddadwy yn innogy: “Rydym yn dal i fod ar gam cynnar iawn, ond rydym yn awyddus i rannu gymaint â phosibl o wybodaeth am y prosiect a gofyn am adborth.”

Dywedodd Robert Proctor, rheolwr datblygu busnes yn Ynni Cymunedol Cymru: “Mae innogy yn gweithio mewn partneriaeth ag Ynni Cymunedol Cymru i roi cyfle i bobl leol a chefnogwyr fuddsoddi yn y cynllun drwy gynnig cyfranddaliadau cymunedol.

"Os hoffech chi gael gwybod am hyn gallwch gofrestru http://www.communityenergywales.org.uk/cy/cyfranni"

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.innogy.com/alwen