“TAITH wyllt i berfeddion byd sy’n troi o dan ein trwynau. Ffyrnig, ffraeth a chyhyrog. Mae Iwcs yn ninja o nofelydd.”

Dyna ganmoliaeth uchel yr actor adnabyddus Rhys Ifans am Dal y Mellt (Y Lolfa), sef nofel gyntaf yr actor a’r canwr poblogaidd Iwcs (Iwan Roberts).

Mae Dal y Mellt yn berwi o hiwmor, dweud gwreiddiol ac o ddisgrifiadau sy’n cyffwrdd rhywun i’r byw. Mae’r nofel hefyd wedi’i disgrifio fel ‘campwaith’.

Mae’r nofel yn dilyn Carbo, y rôg digywilydd ond annwyl, Mici Ffinn a Les Moore (y ddau labwst sy’n ei gipio), Cidw y Ci Du, Antonia, Dafydd Aldo a Jiffy, wrth iddynt fynd ar wib o Gaerdydd i Gaergybi, o Lundain i Ddulyn yn talu’n ôl am hen gamwedd.

Ac ar fferm Bwlch y Gloch yn yr hen Sir Gaernarfon, mae Gronw yn cadw llygad ar y cwbl.

Mae plot y nofel yn symud yn gyflym, yn fyrlymus ac mae’n llawn tensiwn. Ochr yn ochr â hynny ceir hiwmor a dweud ffraeth gyda deialog naturiol, grafog.

Magwyd Iwcs (Iwan Roberts) yn Nhrawsfynydd, yr ieuengaf o bump o blant. Mae wedi actio mewn sawl cyfres deledu a nifer o sioeau theatr. Mae hefyd yn ganwr a chyfansoddwr ac wedi rhyddhau llu o ganeuon dros y blynyddoedd. Hon yw ei nofel gyntaf.

Mae Dal y Mellt gan Iwcs (Iwan Roberts) ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa).