ENILLODD cymdeithas dai, sydd â swyddfeydd yn Ninbych a’r Bala, ddwy wobr arbennig y diwydiant tai, gan gryfhau ei gweledigaeth o gynnig ‘Mwy Na Thai’ i drigolion a chymunedau’r ardal.

Enillodd Grwp Cynefin y wobr gyntaf yng ngwobrau TPAS Cymru, yng nghategorïau tenant ifanc y flwyddyn a gweithredu cymunedol.

Cafodd Keira George gydnabyddiaeth am ei siwrnai lwyddiannus o gael ei gwneud yn ddigartref, i fod yn ddylanwad allweddol ym mhrosiect Youth Shedz y gymdeithas ac astudio am gymhwyster trin gwallt.

Mae Keira, sy’n 21 oed, yn byw yn natblygiad Yr Hafod, gan Grwp Cynefin.

Prosiect yw hwn sy’n cynnig tai â chefnogaeth i chwech o bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed.

Mae’r prosiect yn darparu gweithgareddau cefnogol i’r bobl ifanc yn eu llety, ar y safle ac yn y gymuned.

Cafodd yr ail gategori llwyddiannus ei wobrwyo i Siop Griffiths, Penygroes.

Cefnogodd Grwp Cynefin y grwp cymunedol gyda cheisiadau grant a chyngor ar ddatblygu’r cynllun yn fusnes hunangynhaliol.

Dywedodd Mair Edwards, rheolwr mentrau cymunedol Grwp Cynefin: “Mae ennill y ddwy wobr yn dangos ein hymrwymiad i ‘Fwy Na Thai’, sy’n greiddiol i’n gweledigaeth i wneud gwahaniaeth positif i fywydau a chymunedau’r ardal.

"Mae Keira wedi profi y gallwch newid cyfeiriad os nad ydych chi’n hapus gyda’ch sefyllfa bresennol.

"Tra mae Grwp Cynefin yn darparu’r elfennau ymarferol, megis tai fforddiadwy a phrosiectau cymunedol, gan gynnwys Youth Shedz, mae ei hagwedd a’i rhagolwg cadarnhaol wedi bod yn ysbrydoliaeth gan alluogi iddi wneud yn fawr o’r cyfleoedd a gafodd eu cynnig iddi."

Cafodd Youth Shedz ei sefydlu i gefnogi pobl ifanc a fu’n ddigartref, a chaiff ei redeg gan wasanaeth cefnogi Grwp Cynefin, sef Gorwel.

Meddai Keira: “Mae ennill yn wirioneddol wych, ac yn eisin ar y gacen.

"Mae’r gydnabyddiaeth yma’n dangos ei bod yn bosib i bobl wella eu hamgylchiadau.

"I mi’n bersonol, y cyflawniad mwyaf yw pa mor bell dwi wedi dod ac wedi datblygu ers i mi fynd i fyw i’r Hafod. Cefais fy ngwneud yn ddigartref ar ôl byw adref, ac ar ôl symud o soffa i soffa am ychydig ddyddiau, symudais i’r Hafod yn 2017."

Dywedodd Shan Lloyd Williams, prif weithredwr Grwp Cynefin: “Mae ein staff a’n tenantiaid yn gweithio’n ddiflino i wneud gwahaniaeth positif o fewn cymunedau, ac mae’r gwobrau hyn yn tystio i’r gwaith gwych maent yn ei wneud.”