MAE hi bron yr amser o’r flwyddyn ble y gall pobl Cymru ddod at ei gilydd i ddathlu diwylliant Cymraeg ac ymfalchïo yn eu Cymreictod.

Ydi, mae Cân i Gymru 2020 yn agosáu.

Gyda Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn cyflwyno, caiff y gystadleuaeth ei darlledu’n fyw ar S4C o Ganolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth ar Chwefror 29 am 8pm.

Meddai Siôn Llwyd o gwmni Avanti, sy’n cynhyrchu’r rhaglen ar gyfer S4C: “Mae’r panel eleni, sef Bryn Fôn, Georgia Ruth, Ani Glass ac Owain Roberts, wedi dewis wyth can wych."

Ymhlith yr wyth cân sy'n cystadlu am wobr o £5,000 a’r cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Wyl Ban-geltaidd eleni mae Arianrhod gan Beth Celyn, o Ddinbych a Pan Fyddai’n 80 Oed gan Rhydian Meilir, yn cael ei chanu gan Jacob Elwy, yntau hefyd yn lleol i’r ardal hon.

Mae Siôn am eich atgoffa fod ffawd y cystadleuwyr yn eich dwylo chi. “Cofiwch godi’r ffôn a pleidleisio. Neu pam ddim bod yn ran o’r gynulleidfa ar y noson? Ma’n rhad ac am ddim, yr oll sydd angen gwneud yw cysylltu â swyddfa docynnau Canolfan y Celfyddydau ar 01970 623232.”

Os ydych chi am drydar am y gystadleuaeth eleni, cofiwch ddefnyddio'r hashnod #CiG2020.

Bydd manylion am sut i bleidleisio yn cael eu cyhoeddi ar y rhaglen, a'r gân fuddugol yn cael ei chyhoeddi yn fyw ar S4C yn hwyrach yn y noson.