DYDD Gwener yma fydd y pumed Dydd Miwsig Cymru blynyddol, lle bydd Cymru a'r byd yn dathlu pob math o fiwsig Cymraeg - indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica, hip hop a phopeth arall dan haul.

Mae yna gigs ar draws Cymru ac yn bellach.

Bydd Lerpwl, sef Dinas Gerdd UNESCO yn croesawu Adwaith a fydd yn perfformio sioe am ddim i'r cyhoedd yn yr British Music Experience tu fewn yr adeilad Cunard yn ardal eiconig y Pier Head am 1pm.

Bydd y ty lleiaf ym Mhrydain yng Nghonwy yn agor ei ddrysau i'r cyhoedd ar gyfer perfformiad clòs gan Casi a'i thelynor o 11.30am tan 3.30pm.

Bydd modd i aelodau'r cyhoedd fynd i mewn i'r ty am ddim ar eu pen eu hun neu mewn grwp o ddau.

Mae'r ty yn agor yn arbennig ar gyfer Dydd Miwsig Cymru.

Bydd y nifer fwyaf erioed o recordiau arbennig yn cael eu rhyddhau gan artistiaid a labeli ar Ddydd Miwsig Cymru, gan gynnwys cyfanswm o 15 sengl a dau albwm yn ogystal â podlediad cerddoriaeth Cymraeg arbennig gyda'r digrifwr Elis James.

Dilynwch @dyddmiwsigcymru neu #DyddMiwsigCymru ar Twitter, Facebook ac Instagram i weld y cynlluniau diweddaraf.

Dilynwch yr hashnod #Miwsig ar Twitter, Facebook ac Instagram i gael y newyddion diweddaraf am bob math o fiwsig Cymraeg, a rhannwch fiwsig rydych chi wedi'i glywed gan ddefnyddio'r hashnod.

Am restr o gigs a rhestrau chwarae ewch i llyw.cymru/dydd-miwsig-cymru