BYDD pwyllgor Gwyl Rhuthun yn cynnal noson caws a gwin yn Yr Hen Lys ar nos Fawrth, Ionawr 28.

Pwrpas y noson ydi rhoi cyfle i bobl lleisio barn am yr wyl, rhannu syniadau, cynnig adborth neu yn syml i gael mwy o wybodaeth am y digwyddiad yn gyffredinol.

Mae'r digwyddiad yn gwbl agored i'r cyhoedd gyda mynediad yn rhad ac am ddim, ac mae croeso cynnes i bawb alw fewn unrhyw amser rhwng 7yh ag 9yh.

"Dyma ni ar gychwyn blwyddyn arall ac mae pwyllgor yr wyl unwaith eto yn cwrdd, gwneud cynlluniau a chael pethau at ei gilydd at be fydd gobeithio yn wyl gwerth chweil eto yn 2020," meddai Jim Bryan, is-gadeirydd y pwyllgor.

Mae’r pwyllgor yn parhau i edrych am aelodau newydd i’r pwyllgor gwirfoddol o hyd.

Nid oes angen profiad blaenorol neu sgiliau arbennig, dim ond yr awydd a'r brwdfrydedd a chyfle i gael hwyl gyda'r gwirfoddolwyr sy’n trefnu'r wyl o flwyddyn i flwyddyn.

Mae’r pwyllgor hefyd yn edrych am fwy o wirfoddolwyr i helpu gyda phrif digwyddiad yr wyl, Top Dre.

Os oes diddordeb cysylltwch drwy yrru neges i gwylrhuthun-ruthinfestival@hotmail.co.uk.

Bydd wythnos yr wyl yn rhedeg o Mehefin 26 tan Gorffennaf 5 eleni, gyda 'Top Dre' ar y sgwâr ddydd Sadwrn, Gorffennaf 4.

Bydd cyhoeddiadau yn fuan am rhaglen llawn yr wythnos, a'r artistiaid fydd yn perfformio ar Dop Dre.

Yn y cyfamser, beth am alw draw i’r noson caws a gwin i gael rhannu syniadau am yr wyl?