MAE hi bron yn dymor y Nadolig ac felly yn amser i feddwl am brynu anrhegion.

Beth am gefnogi achosion lleol a phrynu anrheg neu ddau ar yr un pryd?

Cynhelir ocsiwn ac adloniant er budd Eisteddfod yr Urdd 2020 nos Sadwrn, Tachwedd 30 yng Nghanolfan Cae Cymro, Clawddnewydd.

Awydd penwythnos i 10 mewn bwthyn ger Caernarfon neu amser ymlaciol mewn bwthyn ger Betws y Coed?

Neu os mai bwyd sy’n mynd â’ch pryd beth am gacen Nadolig cartref, hanner oen yn barod i’r rhewgell neu dê prynhawn i ddau yn Tweedmill?

Beth am docyn teulu i barc Gelli Gyffwrdd neu bâr o docynau i bantomeim Nadolig Venue Cymru fel trît i’r plant?

Heb os, bydd rhywbeth yno i bawb.

Mynediad yn £5 a chofiwch arian parod neu eich llyfr siec!

Bydd y DJ enwog Mic ar y Meic yno i’ch diddanu hefyd!