BYDD cogydd teledu lliwgar yn hyrwyddo cig eidion a chig oen Cymru mewn arddangosfa goginio yn yr awyr agored yn un o’n gwyliau bwyd gorau.

Bydd gan Chris 'Foodgasm' Roberts, sydd â’i gyfres deledu ei hunan ar S4C, yn serennu yng Ngwyl Fwyd poblogaidd Llangollen ddydd Sadwrn a dydd Sul yma, Hydref 19 a 20.

Saethodd o fod yn rhywun oedd yn coginio ar dân rhostio hen ffasiwn gyda’i ffrindiau, a neb yn ei wylio, i enwogrwydd dros nos fel blogi gyda miloedd o gefnogwyr ar Facebook.

Roedd ei gyfres deledu cyntaf, Bwyd Epic Chris, yn llwyddiant ysgubol ar S4C a bydd yr ail gyfres ar yr awyr fis Tachwedd. Mae Chris, sy’n byw yng Nghaernarfon, yn edrych ymlaen at ei ymweliad cyntaf â’r wyl.

Erbyn hyn, mae’r wyl wedi sefydlu’i hun fel un o uchafbwyntiau’r calendr coginio ac yn cael ei chyfrif yn un o’r 10 gwyl fwyd gorau yn y DU.

Meddai Chris: “Roedd fy nhad wedi bod ym Mhatagonia ac yn sôn sut maen nhw’n coginio.

"Chymerais i ddim llawer o sylw i ddechrau ond ychydig flynyddoedd yn ôl dyma fi’n meddwl y byddai’n hwyl rhoi tro arni a choginio fel Gaucho.

"Cowbois go iawn yw Gouchos. Roedd pobl wrth eu bodd efo beth oeddwn i’n ei wneud.

"Daeth cyfle i mi wneud cyfres deledu ar gyfer S4C ac rydyn ni wrthi’n ffilmio’r ail gyfres.”

Ychwanegodd Chris: “Mae hi’n wahanol bob tro wrth goginio dros dân agored, rhaid defnyddio greddf ac addasu i’r tywydd o gwmpas.

"Rhaid teimlo’r bwyd, y gwres, yn profi’r tymheredd a bod yn amyneddgar.

"Rwy’n siwr o goginio ychydig o stêc Cymreig Tomahawk yn Llangollen ac, wrth gwrs, cig oen. Gennyn ni yng Nghymru mae’r cig gorau yn y byd.

“Rwy’n edrych ymlaen at Llangollen ac at ddangos i bobl cynnyrch mor anhygoel yw cig oen Cymru a sut i’w goginio fel Gaucho!”

Yn ôl Phil Davies, aelod o bwyllgor Gwyl Fwyd Llangollen, dyma’r llwyfan perffaith i Chris Roberts ddangos ei gariad at goginio fel Gaucho.

Meddai: “Syniad yr wyl fwyd yw ysbrydoli pobl i brofi cynnyrch newydd ac i weld beth sydd gennym ni i’w gynnig yma yng Nghymru.

"Mae fideos Chris wedi’u gweld nifer anhygoel o weithiau ar Facebook a chan fod ei gyfres deledu gyntaf mor boblogaidd roedden ni’n meddwl y byddai’n berffaith ar gyfer Gwyl Fwyd Llangollen.”