MAE gwledd ar y gweill i chi ddydd Sadwrn yma yng Ngwyl Eirin Dinbych, gyda dros 40 o stondinau bwyd, diod a chrefft, arddangosiadau coginio gan Harri Williams (gwesty’r Carden Park) a Mark Robertson, tîm coginiol Cymru a Choleg Cambria.

Unwaith eto, cynhelir yr wyl flynyddol yn Neuadd y Dref, Dinbych ddydd Sadwrn yma, 5ed o Hydref rhwng 10am a 4pm.

Bydd parcio am ddim ym meysydd parcio’r dref, a mynediad am ddim i’r wyl.

Ceir hefyd cerddoriaeth acwstig, gwerin yn y prynhawn gan Tegid Rhys, a lansiodd albwm newydd yn gynharach eleni.

Felly, rhywbeth at ddant pawb wrth ddathlu unig eirinen cynhenid Cymru, a’i statws Ewropeaidd newydd!

Am y wybodaeth diweddaraf, ewch i dudalennau facebook neu Twitter Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd / Vale of Clwyd Denbigh Plum