WRTH i wythnos lawn o gystadlu lliwgar o bedwar ban byd dynnu at ei derfyn yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen 2019, bydd y frwydr gyffrous am deitl Côr y Byd 2019 yn goron gerddorol i’r cwbl ar nos Sadwrn, Gorffennaf 6 am 8pm.

A bydd S4C yn darlledu’r cyfan o Bafiliwn Rhyngwladol Llangollen.

Mae’r gystadleuaeth, sy’n cael ei chynnal ers 1987, yn cael ei chydnabod fel pinacl blynyddol y byd corawl.

Bydd enillwyr cystadlaethau y corau ieuenctid, cymysg, meibion, merched a'r categori agored yn cystadlu am y anrhydedd Côr y Byd 2019, tlws Luciano Pavarotti a gwobr ariannol o £3,000.

Un sy’n edrych ymlaen yn eiddgar at y gystadleuaeth yw Edward-Rhys Harry, cyfarwyddwr cerdd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

“Mae’n ddiwrnod bythgofiadwy rydym yn edrych ymlaen i’w gynnal bob blwyddyn. Mae’r gystadleuaeth yn cynnig cyfle gwych i gorau arddangos eu doniau ar blatfform rhyngwladol mewn lleoliad eiconig,” meddai.

“Ac mae awyrgylch yr Eisteddfod Ryngwladol yn cynnig profiad mor unigryw ac arbennig rydym yn gobeithio na fydd cystadleuwyr ac ymwelwyr yn ei anghofio.”

Nia Roberts fydd yn ein llywio drwy’r wledd gerddorol, lle bydd y corau yn cyflwyno detholiad o gerddoriaeth – o fyd clasurol i gerddoriaeth gwerin.

Côr Prifysgol Genedlaethol Singapore gipiodd teitl Côr y Byd y llynedd, ac mae disgwyl i gorau o Ghana, China, UDA a Gwlad Pwyl fod ymysg y corau sy’n ymweld â’r Eisteddfod eleni.

Tybed pwy gaiff yr anrhydedd eleni?