AR nos Sadwrn, Ebrill 13 yng Nghapel Llanrhaeadr bydd cyngerdd i godi arian at ddau achos arbennig, sef apêl Urdd 2020 a phroject Ffynnon Dyfnog Llanrhaeadr.

Meddai Elfed Williams is-gadeirydd Pwyllgor lleol apêl yr Urdd a chadeirydd prosiect Ffynnon Dyfnog: “Bydd Côr Cytgan a thri unawdydd talentog yn perfformio ar y noson ac mi fydd yn fraint cael gymaint o dalentau ifanc lleol o Ddyffryn Clwyd mewn un cyngerdd.”

Sefydlwyd Côr Cytgan Clwyd yn 2013 ar gyfer cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych, lle'r oedd y côr yn fuddugol.

"Maent hefyd wedi cystadlu yn Côr Cymru, Yr Wyl Ban Geltaidd, ac yn fwy diweddar yn ennill Côr yr Wyl mewn gwyl gorawl ym Manceinion.”

Mae’r tri unawdydd sy'n cymryd rhan i gyd yn eu tro wedi bod yn rhan o Gôr Cytgan, ond bellach yn astudio cerdd yng ngholegau cerdd Llundain a Manceinion.

Mae Dafydd Jones o Lanrhaeadr yn ei ail flwyddyn yn astudio llais yng Ngholeg Cerdd Frenhinol yn Llundain.

Cafodd lwyddiant ysgubol yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yng Nghaerdydd yn cipio’r wobr gyntaf yn y gystadleuaeth canu lieder dan 25.

Mae Dafydd Allen, o Fodelwyddan, hefyd yn fyfyriwr yng Ngholeg Cerdd Frenhinol Llundain.

Mae yntau wedi cael llwyddiant mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Mae Lisa Dafydd, o Ruthun, yn ei hail flwyddyn yng Ngholeg Cerdd Frenhinol y Gogledd ym Manceinion, ac yn astudio llais.

Mae tocynnau ar gael o Siop Elfair, Rhuthun, Siop y Pentre’ Llanrhaeadr a Siop Clwyd yn Ninbych.