COFNODION meddygol hen ysbyty meddwl Dinbych yw ysbrydoliaeth ar gyfer drama sydd ar daith ar hyn o bryd.

Yn dilyn cais gan ddoctoriaid seiciatrig ym Mangor yn 2012, defnyddiodd cwmni Frân Wen y cofnodion fel ysbrydoliaeth ar gyfer cynhyrchiad theatr.

Saith blynedd yn ddiweddarach, mae ‘Anweledig’ yn teithio theatrau mwya’ Cymru.

Ffion Dafis sy’n chwarae rhan Glenda, clerc banc sy’n byw gydag iselder difrifol ac sy’n glaf yn ysbyty meddwl Dinbych.

“Dyma’r tro cyntaf i mi berfformio monolog ar y prif lwyfan, felly rwy’n teimlo’n gyffrous iawn,” meddai Ffion.

Mae’r sgript yn tynnu ar brofiadau’r awdur Aled Jones Williams. Meddai: “Mae Anweledig yn ein helpu i ddeall, dynoli a chydymdeimlo â phobl sy'n dioddef o iselder.”

Mae’r cynhyrchiad wedi bod ar daith dros yr wythnosau diwethaf, a bydd yn gorffen y daith yn y Stiwt yn Rhosllannerchrugog ar Mawrth 26-27.

Am docynnau a gwybodaeth pellach, ewch i www.franwen.com

Mae hefyd cyfle i gael cludiant am ddim i Rhos o Ddinbych a Rhuthun gyda Menter Iaith drwy ffonio 01745 812822.

Nodwch mai ychydig iawn o seti sydd bellach ar ôl ar y bws.