BYDD Cân i Gymru 2019 yn cael ei ddarlledu’n fyw ar Fawrth 1 ar S4C am 8yh, gydag Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn cyflwyno.

Ond cyn hynny, ar nos Iau, Chwefror 28 am 8yh, fydd rhaglen arbennig - Cân i Gymru: Dathlu’r 50 - yn edrych yn ôl ar 50 mlynedd o’r gystadleuaeth eiconig.

Mae Siôn Llwyd o gwmni Avanti, sy’n cynhyrchu’r rhaglenni ar gyfer S4C, wedi addo dathliad arbennig iawn i ben-blwydd Cân i Gymru. Meddai Siôn: “Rydym ni wedi cyfweld â nifer o bobl sydd wedi ennill y gystadleuaeth yn y gorffennol yn ogystal â’r bobl sydd wedi chwarae rhan flaenllaw yn y gystadleuaeth boed yn gyfansoddwr, perfformiwr, cyflwynydd, neu gynhyrchydd.”

Bydd wyth act ar lwyfan Cân i Gymru ar nos Wener yn cystadlu am £5,000, cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Wyl Ban-geltaidd ac, wrth gwrs, yr anrhydedd o ennill y tlws a’r teitl enillydd Cân i Gymru 2019.

Ymhlith yr wyth sy’n cystadlu mae rhai lleisiau lleol, sef Jacob Elwy a Mared Williams, yn cyd ganu un o’r cyfansoddiadau, a Celyn Cartwright yn perfformio un arall.

Cofiwch wylio a chefnogi.