DYDD Gwener yma, Chwefror 8 fydd y pedwerydd Dydd Miwsig Cymru.

Mis Chwefror diwethaf, roedd yr actor Rhys Ifans a'r DJ Radio 1 Huw Stephens yn annog bobl i ddarganfod y miwsig Cymraeg anhygoel sydd ar gael.

Cafodd pobl o bob oed flas ar y miwsig Cymraeg oedd yn cael ei chwarae ym mhob rhan o'r wlad a thu hwnt.

Cyrhaeddodd yr ymgyrch fwy na 74 miliwn a sylwodd cerddorion ar gynnydd cryf mewn ffigurau gwrando ar wasanaethau ffrydio fel Spotify.

Unwaith eto eleni, mae Huw’n galw ar unigolion a sefydliadau ledled Cymru a’r byd i wrando, rhannu ac gymryd rhan.

Gall busnesau ac ysgolion gymryd rhan drwy sicrhau bod miwsig Cymraeg yn cael ei chwarae.

I ddathlu flwyddyn anhygoel o fiwsig Cymraeg, bydd AM18 yn cael ei rhyddhau, albwm llawn o’r miwsig newydd gan artistiaid a labeli recordio yng Nghymru yn 2018.

Mae rhestrau chwarae ar gael ar Spotify, Apple Music a gwasanaethau ffrydio eraill, o acwstig i electronig, a synau’n benodol ar gyfer caffis, siopau a phartïon.

Dilynwch #DyddMiwsigCymru ar Twitter, Facebook ac Instagram i gael y diweddaraf am y diwrnod.