MAE gwasanaeth cerdd cydweithredol a sefydlwyd yn Sir Ddinbych yn 2015 erbyn hyn wedi dyblu mewn maint ac yn mynd o nerth i nerth.

Mae Gwasanaeth Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych yn sefydliad nid er elw sy’n cynnig gwersi cerdd i ddisgyblion ar draws y sir.

Sefydlwyd y gwasanaeth mewn ymateb i doriadau i gyllideb Cyngor Sir Ddinbych.

Gweithiodd tiwtoriaid, a gyflogwyd yn flaenorol gan Wasanaeth Cerdd William Mathias, gyda Chyngor Sir Ddinbych i sefydlu model cydweithredol a fyddai’n caniatáu i’r gwasanaeth cerddoriaeth barhau.

Meddai Heather Powell, pennaeth y Gwasanaeth Cerdd Cydweithredol: “Pan gyhoeddwyd toriad i’r gyllideb, daeth y tiwtoriaid at ei gilydd i edrych ar fodel cydweithredol ar gyfer gwasanaethau cerdd.

"Cafodd ei gyflwyno i Gyngor Sir Ddinbych a chawsom gefnogaeth ganddynt ar ffurf offerynnau a swm o arian i ddechrau gwasanaeth.

"Mae wedi bod yn her, ond dros y tair blynedd rydym wedi tyfu; mae gennym fwy o fyfyrwyr yn cael gwersi a 50 o diwtoriaid yn Sir Ddinbych erbyn hyn.

"Rydym hefyd wedi ennill llawer o wobrau yn cynnwys Gwobr Co-operative Cymru ‘One to Watch’, ac yn fwy diweddar enillom wobr 50 Busnes Mwyaf Radical y DU papur newydd yr Observer, felly mae’n amser digon cyffrous i ni i gyd."