MAE ‘nostalgia’ yn braf dydi?

Cofio am ddyddiau da o’r gorffennol gyda gwên.

Wel, nos Sadwrn yma (Tachwedd 10) yn Neuadd y Dref, Dinbych dyma gyfle i hel atgofion am lwyddiant tîm pêl-droed Cymru ym mhencampwriaeth Ewro 2016.

Mi fydd yna lond llwyfan o hwyl gyda chyflwynydd rhaglen Ar y Marc Radio Cymru, Dylan Jones yn holi’r darlledwr a’r cyn-chwaraewr rhyngwladol Owain Tudur Jones, a’r dyn ei hun, is-hyfforddwr tîm Cymru, Osian Roberts.

I goroni’r cyfan, mi fydd y Candelas yn asio’r cwbl at ei gilydd gyda pherfformiad arbennig o’r gân Rhedeg i Baris.

Bydd cyfle i ennill crys pêl-droed Cymru wedi ei arwyddo gan y tîm presennol, rhaglen o’r gêm Cymru yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon (yn cynnwys llofnod Harry Wilson, ar ôl ei gic rydd wych), crys rygbi Cymru wedi ei fframio a’i arwyddo gan y chwedlonol Gareth Edwards, a mwy!

Tocynnau (i rai 16+ yn unig) ar gael o Siop Clwyd neu elsiwyn@icloud.com

Elw yn mynd at Eisteddfod Yr Urdd Sir Ddinbych 2020.