CYNHALIWYD diwrnod Shwmae Sumae ddydd Llun diwethaf, Hydref 15, gyda gweithgareddau yn cael eu cynnal ledled Cymru er mwyn annog i bawb gychwyn pob sgwrs yn Gymraeg.

Mae Dathlu’r Gymraeg, y mudiad ambarél tu ôl i Shwmae Su’mae, wedi sefydlu gwreiddiau cadarn dros y pedair blynedd ddiwethaf diolch i ymdrechion ar lawr gwlad.

Dywed Rebecca Williams, cadeirydd Dathlu’r Gymraeg: “Mae Dydd Shwmae Su’mae’n gyfle i ddathlu’r iaith – ac i sicrhau’r nifer fwyaf o gyfleoedd posib i’w defnyddio – drwy gyfarch yn Gymraeg ar y dechrau, yn hytrach na diolch yn Gymraeg ar y diwedd!”

Cefnogwyd yr ymdrech yn Sir Ddinbych gan sefydliadau megis ysgolion, llyfrgelloedd, swyddfeydd a busnesau, gyda llawer o negeseuon yn cael eu rhannu ar Facebook a Twitter.

Cafodd criw o blant gyfle i ledaenu’r neges yn ystod Gwyl Fwyd Llangollen wrth gymryd rhan mewn gweithgaredd i hybu’r Gymraeg gyda Menter Iaith Sir Ddinbych.

Chwiliwch yr hashnod #ShwmaeSumae i weld rhai o’r negeseuon.