BYDD awdur y gyfrol gipiodd wobr Llyfr y Flwyddyn 2018 yn gynharach eleni yn dod i Lyfrgell Dinbych i drafod ei lyfr.

Bydd cyfle i wrando ar y naturiaethwr Goronwy Wynne, awdur Blodau Cymru: Byd y Planhigion, yn sgwrsio am y gyfrol nos Lun, Hydref 22 am 7 o’r gloch.

Mae Blodau Cymru, a gyhoeddwyd gan wasg Y Lolfa, yn gyflwyniad cynhwysfawr iawn i holl blanhigion Cymru, eu hanes a hanes y rhai fu’n chwilio amdanynt a thrafodir eu henwau a’u cynefinoedd hefyd.

Mae Goronwy Wynne yn fotanegydd adnabyddus o Sir y Fflint a raddiodd ym Mhrifysgol Bangor mewn amaethyddiaeth a botaneg.

Bu’n olygydd cylchgrawn Cymdeithas Edward Llwyd, Y Naturiaethwr, am 10 mlynedd a derbyniodd Fedal Wyddoniaeth yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2014.

Mae tocynnau ar gyfer y noson ar werth yn Llyfrgell Dinbych am £3 (yn cynnwys paned) neu gellir cysylltu i archebu tocyn ar 01745 816313 neu llyfrgell.dinbych@sirddinbych.gov.uk

Croeso cynnes i bawb.