MAE degawd wedi mynd heibio ers i'r Eisteddfod Genedlaethol gael ei chynnal yng Nghaerdydd ddiwethaf, ond nawr mae'r Brifwyl yn ôl yn y brifddinas.

Am y tro cyntaf erioed bydd polisi drws agored heb faes caeedig gyda chyfle i bawb ymuno yn yr hwyl.

Rhwng Awst 4 a 11, bydd amserlen S4C yn llawn o raglenni o'r Eisteddfod. Bydd cyfle i ddilyn y cystadlu byw yn ystod y dydd a'r uchafbwyntiau gyda'r nos.

O'r Goron i'r Gadair, bydd Nia Roberts, Heledd Cynwal a'r tîm yn darlledu'r cyffro o'r Maes a Iwan Griffiths yn cyflwyno'r rhaglenni uchafbwyntiau gyda'r nos.

Hefyd, bydd llywydd yr Eisteddfod eleni, y DJ Huw Stephens a'r newyddiadurwr Steffan Powell o BBC Newsbeat, yn ein tywys o gwmpas y stondinau a'r arddangosfeydd.

Bydd darllediadau S4C o'r Eisteddfod yn cynnwys uchafbwyntiau nosweithiol o'r Babell Lên, Yr Oedfa fore Sul a'r Gymanfa Ganu.

Bydd y rhaglenni byw yn parhau gyda'r nos ar gyfer y cystadlu hwyr nos Fercher a nos Wener a bydd Ffion Dafis yn bwrw golwg yn ôl dros yr wythnos mewn rhaglen uchafbwyntiau nos Sul, Awst 12.

Eisteddfod Genedlaethol 2018.

Ar alw: s4c.cymru; BBC iPlayer a llwyfannau eraill.