YN dilyn dwy gyfres o weithdai ukuleles yn Rhuthun a Dinbych, mae Menter Iaith Sir Ddinbych bellach yn trefnu cyfres newydd i gychwyn ddiwedd Ionawr.

Meddai Gwion Tomos-Jones, swyddog datblygu Menter Iaith: “Cawsom ymateb gwych i’r gweithdai a gynhaliwyd yn ystod tymor yr hydref, a braf iawn oedd gweld plant yn mwynhau gweithgareddau cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg oedd hefyd yn meithrin sgiliau cerddorol.”

Ychwanegodd: “Rydym yn gallu cynnig y gweithdai hyn diolch i garedigrwydd Cyngor Celfyddydau Cymru, a chynghorau tref Rhuthun a Dinbych.”

Mae gofyn archebu lle o flaen llaw drwy gysylltu â gwion@misirddinbych.cymru neu drwy ffonio 01745 812822

Mae Menter Iaith a Bocswn hefyd yn gobeithio trefnu gweithdai bandiau i bobl ifanc, felly os ydych yn nabod rhai rhwng 12-18 oed a fyddai â diddordeb, holwch am fanylion neu cadwch olwg ar dudalen Facebook Menter Iaith Sir Ddinbych

Bydd cyfres o sesiynau cerdd i blant bach rhwng chwech mis a 7 oed yn ail gychwyn ar Ionawr 8.

Mae Menter Iaith, adran celfyddydau’r cyngor sir a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi cefnogi Canolfan Gerdd William Matthias wrth iddynt ddatblygu rhaglen arbenigol llawn hwyl i blant bach a’u rhieni.

Ewch i wefan www.cgwm.org.uk am rhagor o fanylion.